Text Box: Y Gwir Anrhydeddus Alun Cairns AS
 Ysgrifennydd Gwladol Cymru
 
 Mr Robin Walker AS
 Yr Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol dros Ymadael â'r Undeb Ewropeaidd

9 Tachwedd 2017

Annwyl Ysgrifennydd Gwladol a Gweinidog

Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael): Cwestiynau na chawsant sylw ar 6 Tachwedd 2017

Diolch ichi am fod yn bresennol yng nghyfarfod y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol a'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar 6 Tachwedd 2017.

Yn sgil y cyfarfod uchod, rwyf yn ysgrifennu atoch i ofyn am eich ymateb i nifer o gwestiynau na chawsant sylw yn yr amser a oedd ar gael.

Mae'r cwestiynau wedi'u hamgáu gyda'r llythyr hwn.

Byddwn yn ddiolchgar am ymateb buan i'r cwestiynau hyn, o gofio bod Cyfnod Pwyllgor y Bil ar ei daith drwy Dŷ'r Cyffredin ar fin dechrau'r wythnos nesaf.

Rwyf yn anfon copi o'r llythyr hwn at Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ac rwy'n bwriadu ei gyhoeddi ar wefan y Cynulliad.

Yn gywir

David Rees AC

Cadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol


 

Cwestiynau na chawsant sylw ar 6 Tachwedd 2017

 

Pwerau Gweinidogion i wneud cywiriadau

Cwestiwn 1

Pam mae Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) ('y Bil') ddim ond yn rhoi pŵer i Weinidogion Datganoledig i gywiro deddfwriaeth ddomestig sy'n deillio o'r UE, tra bod Gweinidogion y DU yn cael pŵer ehangach i gywiro'r corff cyfan o gyfraith yr UE a gedwir?

Cwestiwn 2

Yn ei lythyr agored i Aelodau Seneddol, dywedodd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol fel a ganlyn:

“Byddai'r opsiwn culach ... o ganiatáu i Weinidogion Cymru a'r Cynulliad gywiro deddfwriaeth ddomestig sy'n deillio o'r UE mewn meysydd datganoledig yn unig yn arwain at broses llai effeithlon o ymadael.”

Rhesymeg y Pwyllgor am hyn yw:

“Mae Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus Cymru yn gyfrifol am weithredu cyfraith yr UE mewn meysydd datganoledig, ac mae hynny'n wir ers 20 mlynedd. Maent yn meddu ar y wybodaeth sydd ei hangen i wneud cywiriadau synhwyrol i gyfraith yr UE mewn meysydd datganoledig. Pe bai Gweinidogion y DU yn ceisio gwneud cywiriadau mewn meysydd datganoledig, byddai angen iddynt ofyn am fewnbwn arbenigol Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus Cymru cyn drafftio cywiriadau o'r fath. Mae galluogi Gweinidogion Cymru a'r Cynulliad i gywiro pob agwedd ar gyfraith sy'n deillio o'r UE mewn meysydd datganoledig yn ddull mwy effeithlon a phriodol, o safbwynt cyfansoddiadol, o gywiro cyfraith sy'n deillio o'r UE mewn meysydd datganoledig.”

Beth yw eich ymateb i'r farn hon?

Pwerau cydredol

Cwestiwn 3

Pam mae angen pwerau cydredol ar Weinidogion Llywodraeth y DU i gywiro deddfwriaeth ddomestig sy'n deillio o'r UE ym meysydd polisi datganoledig Cymru?

Cwestiwn 4

Daeth y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol i'r casgliad nad yw pwerau o'r fath yn briodol yn gyfansoddiadol ac mai'r Cynulliad a ddylai fod yn gyfrifol am “graffu ar ddeddfwriaeth y mae'n atebol i'r etholwyr amdani”.

Beth yw eich ymateb i'r farn hon?

Cwestiwn 5

A ydych yn bwriadu cyflwyno gwelliannau i ddileu pwerau cydredol Gweinidogion y DU o'r Bil, fel yr awgrymwyd gan y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol?

Cwestiwn 6

Os nad ydych yn bwriadu cyflwyno gwelliannau i ddileu'r pwerau cydredol hyn o'r Bil, a fyddech yn ystyried cyflwyno gwelliannau i gynnwys dyletswydd ar wyneb y Bil i ymgynghori â'r Cynulliad ac â Gweinidogion Cymru?

Cydsyniad deddfwriaethol:

Cwestiwn 7

Esboniwch pam nad ydych yn credu bod angen cydsyniad y Cynulliad ar gyfer Cymalau 7 a 9 o'r Bil.

Cwestiwn 8

A wnaiff Llywodraeth y DU fynd ymlaen â'r Bil os nad yw'n cael cydsyniad y deddfwrfeydd datganoledig?

Cwestiwn 9

Ydych chi'n credu y gallwch gael cydsyniad y Cynulliad heb dderbyn gwelliannau Llywodraeth Cymru?

Cwestiwn 10

Pe bai 'Biliau parhad' yr UE yn cael eu cyflwyno yn yr Alban a Chymru, a fyddai Llywodraeth y DU yn eu herio yn y Goruchaf Lys neu'n ceisio eu dirymu drwy Ddeddf Seneddol?

Cwmpas pwerau'r Gweinidogion

Cwestiwn 11

A wnewch chi gyflwyno gwelliannau i gyfyngu ar gwmpas y pwerau a gynigir ar gyfer Gweinidogion?

Cwestiwn 12

A yw'r Bil yn caniatáu i'r term 'diwrnod ymadael' gael ei ddiffinio'n wahanol ar gyfer gwahanol gymalau yn y Bil?

Cwestiwn 13

Pam mae Llywodraeth y DU o'r farn ei bod yn briodol i Weinidogion gael y pŵer i ddiwygio'r Bil ei hun (drwy ddefnyddio'r pwerau a roddwyd iddynt gan Gymal 17)?

Cwestiwn 14

A ydych yn bwriadu cyflwyno gwelliant i Gymal 17 i gyfyngu ar bŵer Gweinidogion y DU i ddiwygio'r Bil?

Gweithdrefnau craffu

Cwestiwn 15

Pam nad yw'r Bil yn caniatáu i'r Cynulliad benderfynu ar ei weithdrefnau ei hun ar gyfer craffu ar is-ddeddfwriaeth sy'n deillio o ganlyniad i'r Bil?

Cwestiwn 16

Pam na wnaethoch chi ymgynghori â'r Cynulliad cyn cyflwyno'r Bil ar y gweithdrefnau craffu ar gyfer deddfwriaeth ddirprwyedig a wneir gan Weinidogion Cymru?

Cwestiwn 17

A ydych yn cytuno y bydd unrhyw weithdrefnau craffu a bennir yn y Bil ar gyfer San Steffan efallai'n anaddas neu'n anymarferol yn y deddfwrfeydd datganoledig?

Fframweithiau polisi cyffredin

Cwestiwn 18

Sut fyddwch chi'n sicrhau y bydd y trafodaethau ar fframweithiau polisi cyffredin yn dryloyw a bod modd craffu arnynt gan bob un o'r deddfwrfeydd yn y DU?

Cwestiwn 19

Pa rôl fydd gan randdeiliaid o ran datblygu a chytuno ar fframweithiau polisi cyffredin a pha brosesau ymgynghori fydd ar waith?

Cwestiwn 20

Yn ôl JMC (EN) Communiqué ar 16 Hydref: “It will be the aim of all parties to agree […]”.

A yw hyn yn caniatáu i Lywodraeth y DU osod fframwaith polisi cyffredin os na fydd un o'r partïon yn cytuno?